Aberffraw

Cymraeg- Bisged Aberffraw

Ffaith na wyr neb: Meddylir mai bisged Aberffraw o Ogledd Cymru (weithiau fe’i gelwir yn gacennau Aberffraw/Cacen Berffro) yw’r ryseit bisged hynaf ym Mhrydain.

Bydd Cwmni Bisged Aberffraw yn ymwneud ac atgyfodi y tamaid yma o wir hanes Prydain
Dwedir fod Bisged Aberffraw yn tarddu o’r 13eg ganrif Sir Fôn.

Yn elfennol, teisen frau ydi, a ddaw mewn siap cragen fylchog …yn ôl y chwedl dwedir fod Brenin Cymru’n cynnal llys yn Aberffraw – a’i wraig yn cerdded ar y traeth yno ac yn darganfod cragen fylchog bert a gofynodd am gacen wedi ei wneud yn yr un ffurf.

James and Natasha Shepherd

Ac felly ganwyd bisged Aberffraw.

Sut bynag, tarddiad mwy realistig i’r fisged oedd y bererindod enwog i Santiago de Compostela.

Dechreuwyd y bererindod i Eglwys Sant Iago yn Galisia, gogledd gorllewin Sbaen tua’r 8fed Ganrif gyda’r pererinion yn gwisgo bathodynau yn eu hetiau ar siap cragen fylchog.

Am y rheswm yma dyna pam weithiau gelwir bisged Aberffraw yn gacennau Iago. Dan nawddogaeth y Brenin Gruffudd ap Cynan (1075-1137) neu ei fab ai olynwr Owain Gwynedd (1137-70) adeiladwyd eglwys mewn carreg yn Aberffraw ar ddull Romanésg a edrychai’n debyg i eglwysi ar y llwybr pererindod i Santiago de Compostela.

Yr adeilad yma yw’r linc terfynol tuag at y gragen fylchog gyda pererinion Sant Iago ar pentref bychan yng Nghymru, Aberffraw.

Dyma linc i ddarllen fwy am hanes y bisged Aberffraw